Jeremiah 52:12 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac yn y pumed mis, ar y degfed dydd o'r mis, (hon oedd y bedwaredd flwyddyn ar bymtheg i'r brenin Nebuchodonosor brenin Babilon,) y daeth Nebusaradan pennaeth y milwyr, yr hwn a safai gerbron brenin Babilon, i Jerwsalem;
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Rhyw fis yn ddiweddarach, dyma Nebwsaradan, capten y gwarchodlu brenhinol, un o swyddogion pwysica brenin Babilon, yn cyrraedd Jerwsalem (Roedd hyn ar y degfed diwrnod o'r pumed mis, a Nebwchadnesar wedi bod yn frenin Babilon ers un deg naw o flynyddoedd.)
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yn y pumed mis, ar y degfed dydd o'r mis, yn y bedwaredd flwyddyn ar bymtheg i'r Brenin Nebuchadnesar, brenin Babilon, daeth Nebusaradan, pennaeth y gosgorddlu oedd yn gwasanaethu'r brenin, i Jerwsalem,