Jeremiah 52:19 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A'r ffiolau, a'r pedyll tân, a'r cawgiau, a'r crochanau, a'r canwyllbrennau, a'r thuserau, a'r cwpanau, y rhai oedd o aur yn aur, a'r rhai oedd o arian yn arian, a gymerodd pennaeth y milwyr ymaith.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Cymerodd capten y gwarchodlu bopeth oedd wedi ei wneud o aur neu arian — y powlenni bach, y padellau, y dysglau, bwcedi lludw, y lampau ar stand, y padellau a phowlenni'r offrwm o ddiod.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Cymerodd pennaeth y gosgorddlu y celfi o fetel gwerthfawr, yn aur ac yn arian ffiolau, pedyll tn, cawgiau, crochanau, canwyllbrennau, thuserau, a chwpanau diodoffrwm.