Jeremiah 52:31 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac yn y ddwyfed flwyddyn ar bymtheg ar hugain wedi caethgludo Jehoiachin brenin Jwda, yn y deuddegfed mis, ar y pumed dydd ar hugain o'r mis, Efil‐merodach brenin Babilon, yn y flwyddyn gyntaf o'i deyrnasiad, a ddyrchafodd ben Jehoiachin brenin Jwda, ac a'i dug ef allan o'r carchardy;
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Roedd Jehoiachin, brenin Jwda, wedi bod yn garcharor am dri deg saith o flynyddoedd pan ddaeth Efil-merodach yn frenin ar Babilon. Ar y pumed ar hugain o'r deuddegfed mis y flwyddyn honno dyma Efil-merodach yn rhyddhau Jehoiachin o'r carchar.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yn yr ail flwyddyn ar bymtheg ar hugain o gaethgludiad Jehoiachin brenin Jwda, yn y deuddegfed mis, ar y pumed dydd ar hugain o'r mis, gwnaeth Efil-merodach brenin Babilon, ym mlwyddyn gyntaf ei deyrnasiad, ffafr Jehoiachin brenin Jwda, a'i ddwyn allan o'r carchar,