Jeremiah 52:4 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac yn y nawfed flwyddyn o'i deyrnasiad ef, yn y degfed mis, ar y degfed dydd o'r mis, y daeth Nebuchodonosor brenin Babilon, efe a'i holl lu, yn erbyn Jerwsalem, ac a wersyllasant yn ei herbyn hi, ac a adeiladasant gyferbyn â hi amddiffynfa o amgylch ogylch.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
A dyma Nebwchadnesar, brenin Babilon, yn dod â'i fyddin gyfan i ymosod ar Jerwsalem. Digwyddodd hyn ar y degfed diwrnod o'r degfed mis yn nawfed flwyddyn Sedeceia fel brenin. Dyma nhw'n gwersylla o gwmpas y ddinas, ac yn codi rampiau i warchae arni.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
ac yn nawfed flwyddyn ei deyrnasiad, yn y degfed mis, ar y degfed dydd o'r mis, daeth Neb-uchadnesar brenin Babilon, gyda'i holl fyddin, yn erbyn Jerwsalem, a chodi gwarchae yn ei herbyn ac adeiladu tyrau gwarchae o'i hamgylch.