Jeremiah 52:7 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yna y torrwyd y ddinas; a'r holl ryfelwyr a ffoesant, ac a aethant allan o'r ddinas liw nos, ar hyd ffordd y porth rhwng y ddau fur, yr hwn oedd wrth ardd y brenin, (a'r Caldeaid oedd wrth y ddinas o amgylch,) a hwy a aethant ar hyd ffordd y rhos.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dyma'r gelyn yn llwyddo i fylchu wal y ddinas. A dyma filwyr Jwda i gyd yn ceisio dianc, a mynd allan o'r ddinas ganol nos drwy'r giât sydd rhwng y ddwy wal wrth ymyl gardd y brenin. Dyma nhw'n dianc i gyfeiriad Dyffryn Iorddonen (Roedd y Babiloniaid yn amgylchynu'r ddinas.)
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yna bylchwyd y muriau, a ffodd yr holl ryfelwyr allan o'r ddinas yn y nos drwy'r porth rhwng y ddau fur, gerllaw gardd y brenin, er bod y Caldeaid o amgylch y ddinas. Aethant i gyfeiriad yr Araba.