Jeremiah 6:1 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ymgynullwch i ffoi, meibion Benjamin, o ganol Jerwsalem, ac yn Tecoa utgenwch utgorn; a chodwch ffagl yn Beth‐haccerem: canys drwg a welir o'r gogledd, a dinistr mawr.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“Bobl Benjamin, ffowch i le saff! A dianc o ganol Jerwsalem! Chwythwch y corn hwrdd yn Tecoa, a chynnau tân yn Beth-hacerem i rybuddio'r bobl. Mae byddin yn dod o'r gogledd i ddinistrio popeth.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
"Ffowch, blant Benjamin, o ganol Jerwsalem. Canwch utgorn yn Tecoa, a chodwch ffagl ar Beth-hacerem, oherwydd y mae drwg yn crynhoi o'r gogledd, a dinistr mawr.