Jeremiah 6:16 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD, Sefwch ar y ffyrdd, ac edrychwch, a gofynnwch am yr hen lwybrau, lle mae ffordd dda, a rhodiwch ynddi; a chwi a gewch orffwystra i'ch eneidiau. Ond hwy a ddywedasant, Ni rodiwn ni ynddi.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud: “Dych chi'n sefyll ar groesffordd, felly holwch am yr hen lwybrau — sef y ffordd sy'n arwain i fendith. Ewch ar hyd honno, a cewch orffwys wedyn.” Ond ymateb y bobl oedd “Na, dim diolch!”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: "Safwch ar y ffyrdd; edrychwch, ac ymofyn am yr hen lwybrau. Ple bynnag y cewch ffordd dda, rhodiwch ynddi, ac fe gewch le i orffwys." Ond dywedasant, "Ni rodiwn ni ddim ynddi."