Jeremiah 7:13 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac yn awr, am wneuthur ohonoch yr holl weithredoedd hyn, medd yr ARGLWYDD, minnau a leferais wrthych, gan godi yn fore, a llefaru, eto ni chlywsoch; a gelwais arnoch, ond nid atebasoch:
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
A nawr, dych chi'n gwneud yr un pethau!’” meddai'r ARGLWYDD. “‘Dw i wedi ceisio dweud wrthoch chi dro ar ôl tro, ond doeddech chi ddim am wrando. Roeddwn i'n galw arnoch chi, ond doeddech chi ddim am ateb.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yn awr, gan i chwi wneud yr holl bethau hyn, medd yr ARGLWYDD, mi lefaraf finnau wrthych; mi lefaraf yn daer, ond ni chlywch; mi alwaf arnoch, ond nid atebwch.