Jeremiah 7:18 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Y plant sydd yn casglu cynnud, a'r tadau yn cynnau tân, a'r gwragedd yn tylino toes, i wneuthur teisennau i frenhines y nef, ac i dywallt diod‐offrymau i dduwiau dieithr, i'm digio i.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Mae'r plant yn casglu coed tân, y tadau'n cynnau'r tân a'r gwragedd yn paratoi toes i wneud cacennau i'r dduwies maen nhw'n ei galw'n ‛Frenhines y Nefoedd‛! Maen nhw'n tywallt offrwm o ddiod i dduwiau paganaidd dim ond i'm gwylltio i.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Y mae'r plant yn casglu cynnud, y tadau yn cynnau tn, a'r gwragedd yn tylino toes i wneud teisennau i frenhines y nef; y maent yn tywallt diodoffrwm i dduwiau eraill, er mwyn fy nigio i.