Jeremiah 7:28 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Eithr ti a ddywedi wrthynt, Dyma genedl ni wrendy ar lais yr ARGLWYDD ei DUW, ac ni dderbyn gerydd: darfu am y gwirionedd, a thorrwyd hi ymaith o'u genau hwynt.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dywed wrthyn nhw, ‘Mae'r wlad yma wedi gwrthod gwrando ar yr ARGLWYDD ei Duw, a gwrthod cael ei dysgu. Mae gonestrwydd wedi diflannu! Dydy pobl ddim hyd yn oed yn honni ei ddilyn bellach!’
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
A dywedi wrthynt, 'Hon yw'r genedl a wrthododd wrando ar yr ARGLWYDD ei Duw, ac ni dderbyniodd gerydd. Darfu am wirionedd; fe'i torrwyd ymaith o'u genau.'