Jeremiah 7:32 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Am hynny wele y dyddiau yn dyfod, medd yr ARGLWYDD, na elwir hi mwy Toffet, na glyn mab Hinnom, namyn glyn lladdedigaeth; canys claddant o fewn Toffet, nes bod eisiau lle.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“Felly mae'r amser yn dod,” meddai'r ARGLWYDD, “pan fydd neb yn galw'r lle yn Toffet neu dyffryn Ben-hinnom. ‛Dyffryn Llofruddiaeth‛ fydd enw'r lle. Fydd dim digon o le i gladdu pawb fydd yn cael eu lladd yno.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Am hynny fe ddaw y dyddiau," medd yr ARGLWYDD, "nas gelwir mwyach yn Toffet nac yn ddyffryn Ben-hinnom, ond yn ddyffryn y lladdfa; a chleddir yn Toffet, o ddiffyg lle.