Jeremiah 8:1 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yn yr amser hwnnw, medd yr ARGLWYDD, y dygant hwy esgyrn brenhinoedd Jwda, ac esgyrn ei dywysogion, ac esgyrn yr offeiriaid, ac esgyrn y proffwydi, ac esgyrn trigolion Jerwsalem, allan o'u beddau.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Meddai'r ARGLWYDD, “Bryd hynny, bydd esgyrn brenhinoedd Jwda yn cael eu cymryd allan o'u beddau; ac esgyrn y swyddogion hefyd, a'r offeiriaid a'r proffwydi, a phawb arall oedd yn byw yn Jerwsalem.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
"Yn yr amser hwnnw," medd yr ARGLWYDD, "fe godir o'u beddau esgyrn brenhinoedd Jwda, esgyrn y tywysogion, esgyrn yr offeiriaid, esgyrn y proffwydi ac esgyrn trigolion Jerwsalem,