Jeremiah 8:12 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A fu gywilydd arnynt hwy pan wnaethant ffieidd‐dra? na fu ddim cywilydd arnynt, ac ni fedrasant wrido: am hynny y syrthiant ymysg y rhai a syrthiant: yn amser eu hymweliad y syrthiant, medd yr ARGLWYDD.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dylai fod cywilydd arnyn nhw am y fath beth! Ond na! does ganddyn nhw ddim mymryn o gywilydd. Dŷn nhw ddim yn gwybod beth ydy gwrido! Felly byddan nhw'n cael eu lladd gyda pawb arall. Bydda i'n eu cosbi nhw, a byddan nhw'n syrthio.’” —yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
A oes cywilydd arnynt pan wnnt ffieidd-dra? Dim cywilydd o gwbl! Ni allant wrido. Am hynny fe syrthiant gyda'r syrthiedig; yn nydd eu cosbi fe gwympant,' medd yr ARGLWYDD.