Jeremiah 8:13 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Gan ddifa y difâf hwynt, medd yr ARGLWYDD; ni bydd grawnwin ar y winwydden, na ffigys ar y ffigysbren, a'r ddeilen a syrth; a'r hyn a roddais iddynt a ymedy â hwynt.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“Pan oeddwn i eisiau casglu'r cynhaeaf,” meddai'r ARGLWYDD “doedd dim grawnwin na ffigys yn tyfu ar y coed. Roedd hyd yn oed y dail ar y coed wedi gwywo. Roedden nhw wedi colli popeth rois i iddyn nhw.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
"'Pan gasglwn hwy,' medd yr ARGLWYDD, 'nid oedd grawnwin ar y gwinwydd, na ffigys ar y ffigysbren; gwywodd y ddeilen, aeth heibio yr hyn a roddais iddynt.'"