Jeremiah 8:16 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
O Dan y clywir ffroeniad ei feirch ef; gan lais gweryriad ei gedyrn ef y crynodd yr holl ddaear: canys hwy a ddaethant, ac a fwytasant y tir, ac oll a oedd ynddo; y ddinas a'r rhai sydd yn trigo ynddi.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Mae sŵn ceffylau'r gelyn yn ffroeni i'w glywed yn Dan. Mae pawb yn crynu mewn ofn wrth glywed y ceffylau'n gweryru. Maen nhw ar eu ffordd i ddinistrio'r wlad a phopeth sydd ynddi! Maen nhw'n dod i ddinistrio'r trefi, a phawb sy'n byw ynddyn nhw.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Clywir ei feirch yn ffroeni o wlad Dan; crynodd yr holl ddaear gan drwst ei stalwyni'n gweryru. Daethant gan ysu'r tir a'i lawnder, y ddinas a'r rhai oedd yn trigo ynddi.