Jeremiah 8:2 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A hwy a'u taenant o flaen yr haul, ac o flaen y lleuad, a holl lu y nefoedd y rhai a garasant hwy, a'r rhai a wasanaethasant, a'r rhai y rhodiasant ar eu hôl, a'r rhai a geisiasant, a'r rhai a addolasant: ni chesglir hwynt, ac nis cleddir; yn domen ar wyneb y ddaear y byddant.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Byddan nhw'n cael eu gosod allan dan yr haul a'r lleuad a'r sêr. Dyma'r ‛duwiau‛ roedden nhw'n eu caru a'u gwasanaethu, yn addo bod yn ffyddlon iddyn nhw, yn ceisio arweiniad ganddyn nhw ac yn eu haddoli. A fydd yr esgyrn ddim yn cael eu casglu eto i'w claddu. Byddan nhw'n gorwedd fel tail ar wyneb y tir!
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
a'u taenu yn wyneb yr haul a'r lleuad a holl lu'r nefoedd y buont yn eu caru ac yn eu gwasanaethu, gan rodio ar eu hl ac ymofyn ganddynt a'u haddoli. Byddant heb eu casglu a heb eu claddu; byddant yn dom ar wyneb y ddaear.