Jeremiah 8:6 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Mi a wrandewais ac a glywais, ond ni ddywedent yn iawn: nid edifarhaodd neb am ei anwiredd, gan ddywedyd, Beth a wneuthum i? pob un oedd yn troi i'w yrfa, megis march yn rhuthro i'r frwydr.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dw i wedi gwrando'n ofalus arnyn nhw, a dŷn nhw ddim yn dweud y gwir. Does neb yn sori am y drwg maen nhw wedi ei wneud; neb yn dweud, “Dw i ar fai.” Maen nhw i gyd yn mynd eu ffordd eu hunain, fel ceffyl yn rhuthro i'r frwydr.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Cymerais sylw a gwrandewais, ond ni lefarodd neb yn uniawn; nid edifarhaodd neb am ei ddrygioni a dweud, "Beth a wneuthum?" Y mae pob un yn troi yn ei redfa, fel march cyn rhuthro i'r frwydr.