Jeremiah 8:7 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ie, y ciconia yn yr awyr a edwyn ei dymhorau; y durtur hefyd, a'r aran, a'r wennol, a gadwant amser eu dyfodiad; eithr fy mhobl i ni wyddant farn yr ARGLWYDD.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Mae'r crëyr yn gwybod pryd i ymfudo, a'r durtur, y wennol a'r garan. Maen nhw i gyd yn dod yn ôl ar yr adeg iawn o'r flwyddyn. Ond dydy fy mhobl i'n cymryd dim sylw o'r hyn dw i, yr ARGLWYDD, yn ei ofyn ganddyn nhw.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Y mae'r cryr yn yr awyr yn adnabod ei dymor; y durtur a'r wennol a'r fronfraith yn cadw amser eu dyfod; ond nid yw fy mhobl yn gwybod trefn yr ARGLWYDD.