Jeremiah 9:10 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Dros y mynyddoedd y codaf wylofain a chwynfan, a galar dros lanerchau yr anialwch; am eu llosgi hwynt, fel na thramwyo neb trwyddynt, ac na chlywir llais ysgrubliaid: adar y nefoedd a'r anifeiliaid hefyd a giliasant, aethant ymaith.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dw i'n mynd i grïo'n uchel am y mynyddoedd, a galaru dros diroedd pori'r anialwch. Maen nhw wedi llosgi, a does neb yn teithio'r ffordd honno. Does dim sŵn anifeiliaid yn brefu. Mae hyd yn oed yr adar a'r anifeiliaid gwylltion wedi dianc oddi yno.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Codaf wylofain a chwynfan am y mynyddoedd, a galarnad am lanerchau'r anialwch; canys y maent wedi eu dinistrio fel nad neb heibio, ac ni chlywant fref y gwartheg; y mae adar y nef a'r anifeiliaid hefyd wedi ffoi ymaith.