Jeremiah 9:12 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Pa ŵr sydd ddoeth a ddeall hyn? a phwy y traethodd genau yr ARGLWYDD wrtho, fel y mynego paham y darfu am y tir, ac y llosgwyd fel anialwch heb gyniweirydd?
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Pwy sy'n ddigon doeth i ddeall pam mae hyn wedi digwydd? Gyda pwy mae'r ARGLWYDD wedi siarad, er mwyn iddo esbonio'r peth? Pam mae'r wlad wedi ei difetha'n llwyr, a'r tir fel anialwch does neb yn teithio trwyddo?
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Pwy sy'n ddigon doeth i ddeall hyn? Wrth bwy y traethodd genau yr ARGLWYDD, er mwyn iddo fynegi? Pam y dinistriwyd y tir, a'i ddifa fel anialwch heb neb yn ei dramwyo?