Jeremiah 9:3 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A hwy a anelasant eu tafod fel eu bwa i gelwydd; ac nid at wirionedd yr ymgryfhasant ar y ddaear: canys aethant o ddrwg i ddrwg, ac nid adnabuant fi, medd yr ARGLWYDD.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“Mae eu tafodau fel bwa wedi ei blygu i saethu celwyddau. Maen nhw wedi dod yn bwerus yn y wlad drwy fod yn anonest. Ac maen nhw wedi mynd o ddrwg i waeth! Does ganddyn nhw ddim eisiau fy nabod i.” —yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
"Plygasant eu tafod, fel bwa, i gelwydd; ac nid ar bwys gwirionedd yr aethant yn gryf yn y wlad. Aethant o un drwg i'r llall, ac nid ydynt yn fy adnabod i," medd yr ARGLWYDD.