Jeremiah 9:5 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Pob un hefyd a dwylla ei gymydog, a'r gwir nis dywedant: hwy a ddysgasant eu tafodau i ddywedyd celwydd, ymflinasant yn gwneuthur anwiredd.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Mae pawb yn twyllo eu ffrindiau. Does neb yn dweud y gwir. Maen nhw wedi hen arfer dweud celwydd; yn pechu, ac yn rhy wan i newid eu ffyrdd.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Y mae pob un yn twyllo'i gymydog, heb ddweud y gwir; dysgodd i'w dafod ddweud celwydd, troseddodd, ac ymflino nes methu edifarhau.