Job 1:5 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A phan ddeuai dyddiau y wledd oddi amgylch, yna Job a anfonai ac a'u sancteiddiai hwynt, ac a gyfodai yn fore, ac a offrymai boethoffrymau yn ôl eu rhifedi hwynt oll: canys dywedodd Job, Fy meibion ond odid a bechasant, ac a felltithiasant DDUW yn eu calonnau. Felly y gwnâi Job yr holl ddyddiau hynny.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Pan oedd yr wythnos o bartïo drosodd, byddai Job yn anfon amdanyn nhw iddyn nhw fynd trwy'r ddefod o gael eu glanhau. Byddai'n codi'n gynnar yn y bore, ac yn cyflwyno offrymau i'w llosgi i Dduw ar eu rhan nhw i gyd. Roedd yn meddwl, “Falle fod fy mhlant i wedi pechu, ac wedi melltithio Duw.” Roedd Job yn gwneud hyn yn rheolaidd.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yna pan ddi cylch y gwledda i ben, anfonai Job amdanynt i'w puro; codai'n fore i offrymu poethoffrymau, un dros bob un ohonynt, oherwydd meddyliai, "Efallai fod fy meibion wedi pechu a melltithio Duw yn eu calonnau." Fel hyn y gwni Job yn gyson.