Job 11:4 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Canys dywedaist, Pur ydyw fy nysgeidiaeth, a glân ydwyf yn dy olwg di.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ti'n dweud, ‘Mae beth dw i'n gredu yn iawn, a dw i'n lân yn dy olwg di, O Dduw.’
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Dywedaist, 'Y mae f'athrawiaeth yn bur, a dilychwin wyf yn d'olwg.'