Job 11:6 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A mynegi i ti ddirgeledigaethau doethineb, eu bod yn ddau cymaint â'r hyn sydd! Cydnebydd gan hynny i DDUW ofyn gennyt lai nag haeddai dy anwiredd.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
ac yn dangos i ti beth ydy doethineb go iawn! Mae dwy ochr i bob stori! Byddet ti'n gweld fod Duw yn dy gosbi lai nag wyt ti'n ei haeddu!
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
a hysbysu iti gyfrinachau doethineb, a bod dwy ochr i ddeall! Yna gwybydd fod Duw yn anghofio peth o'th gamwedd.