Job 12:6 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Llwyddiannus yw lluestai ysbeilwyr, ac y mae diogelwch i'r rhai sydd yn cyffroi DUW, y rhai y cyfoethoga DUW eu dwylo.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ond mae lladron yn cael bywyd braf, a'r rhai sy'n herio Duw yn byw yn saff — ac yn cario eu duw yn eu dwylo!
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Llwyddiant sydd ym mhebyll yr anrheithwyr, a diogelwch i'r rhai sy'n blino Duw rhai wedi cael Duw dan eu bawd!