Job 15:28 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A thrigo y mae mewn dinasoedd wedi eu dinistrio, a thai anghyfannedd, y rhai sydd barod i fod yn garneddau.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
mae'n byw mewn trefi fydd yn cael eu dinistrio, ac mewn tai lle bydd neb ar ôl; rhai fydd yn ddim mwy na pentwr o rwbel.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
fe drig mewn dinasoedd diffaith, mewn tai heb neb yn byw ynddynt, lleoedd sydd ar fin adfeilio.