Job 2:11 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A phan glybu tri chyfaill Job yr holl ddrwg yma a ddigwyddasai iddo ef, hwy a ddaethant bob un o'i fangre ei hun; Eliffas y Temaniad, a Bildad y Suhiad, a Soffar y Naamathiad: canys hwy a gytunasent i ddyfod i gydofidio ag ef, ac i'w gysuro.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Pan glywodd tri o ffrindiau Job am y trychinebau ofnadwy oedd wedi digwydd iddo, dyma nhw'n penderfynu mynd i'w weld. Y tri oedd Eliffas o Teman, Bildad o Shwach, a Soffar o Naäma. Dyma nhw'n cyfarfod â'i gilydd, a mynd ato i gydymdeimlo a cheisio ei gysuro.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yna clywodd tri chyfaill Job am y cystudd trwm a ddaeth arno. Daeth Eliffas y Temaniad, Bildad y Suhiad, a Soffar y Naamathiad, pob un o'i le ei hun, a chytuno 'i gilydd i ddod i gydymdeimlo ag ef a'i gysuro.