Job 30:20 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yr ydwyf yn llefain arnat ti, ac nid ydwyt yn gwrando: yr ydwyf yn sefyll, ac nid ystyri wrthyf.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
O Dduw, dw i'n gweiddi am dy help, ond does dim ateb; dw i'n sefyll o dy flaen, ond dwyt ti'n cymryd dim sylw.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Gwaeddaf arnat am gymorth, ond nid wyt yn f'ateb; safaf o'th flaen, ond ni chymeri sylw ohonof.