Job 34:10 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Am hynny chwychwi wŷr calonnog, gwrandewch arnaf. Pell oddi wrth DDUW fyddo gwneuthur annuwioldeb, ac oddi wrth yr Hollalluog weithredu anwiredd.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Felly, gwrandwch chi ddynion deallus, Fyddai Duw byth yn gwneud drwg; a'r Un sy'n rheoli popeth yn gwneud dim o'i le!
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
"Am hyn, chwi bobl ddeallus, gwrandewch arnaf. Pell y bo oddi wrth Dduw wneud drygioni, ac oddi wrth yr Hollalluog weithredu'n anghyfiawn.