Job 37:23 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Am yr Hollalluog, ni allwn ni mo'i gael ef: ardderchog yw o nerth, a barn, a helaethrwydd cyfiawnder: ni chystuddia efe.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Mae'r Un sy'n rheoli popeth y tu hwnt i'n cyrraedd ni! Mae ei nerth mor aruthrol fawr! Mae'n gyfiawn ac yn gwneud beth sy'n iawn, a dydy e ddim yn gorthrymu neb.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ni allwn ni ganfod yr Hollalluog, y mae'n fawr ei nerth; yn ei farn a'i gyfiawnder ni wna gam.