Job 4:19 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Pa faint llai ar y rhai sydd yn trigo mewn tai o glai, y rhai sydd â'u sail mewn pridd, y rhai a falurir yn gynt na gwyfyn?
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
pa obaith sydd i'r rhai sy'n byw mewn corff o bridd, ac yn tarddu o'r llwch — y rhai y gellir eu gwasgu fel gwyfyn!
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
beth, ynteu, am y rhai sy'n trigo mewn tai o glai, a'u sylfeini mewn pridd, y rhai a falurir yn gynt na gwyfyn?