Job 42:3 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Pwy ydyw yr hwn sydd yn cuddio cyngor heb wybodaeth? am hynny y lleferais yr hyn nis deellais; pethau rhy ryfedd i mi, y rhai nis gwyddwn.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
‘Pwy ydy hwn sy'n amau fy nghynllun i, ac yn deall dim?’ meddet ti. Ti'n iawn, dw i wedi siarad am bethau doeddwn i ddim yn eu deall; pethau oedd y tu hwnt i mi, pethau allwn i mo'u dirnad nhw.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Meddi, 'Pwy yw hwn sy'n cuddio deall geiriau diwybod?' Yn wir, rwyf wedi mynegi pethau nad oeddwn yn eu deall, pethau rhyfeddol, tu hwnt i'm dirnad.