Job 42:9 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Felly Eliffas y Temaniad, a Bildad y Suhiad, a Soffar y Naamathiad, a aethant ac a wnaethant fel y dywedasai yr ARGLWYDD wrthynt. A'r ARGLWYDD a dderbyniodd wyneb Job.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Felly dyma Eliffas o Teman, Bildad o Shwach a Soffar o Naäma yn mynd a gwneud beth ddwedodd yr ARGLWYDD wrthyn nhw, a dyma'r ARGLWYDD yn gwrando ar weddi Job.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yna aeth Eliffas y Temaniad, Bildad y Suhiad a Soffar y Naamathiad, a gwneud fel y gorchmynnodd yr ARGLWYDD iddynt; a gwrandawodd yr ARGLWYDD ar Job.