Job 7:4 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Pan orweddwyf, y dywedaf, Pa bryd y codaf, ac yr ymedy y nos? canys caf ddigon o ymdroi hyd y cyfddydd.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Pan dw i'n gorwedd i lawr, dw i'n meddwl, ‘Pryd dw i'n mynd i fedru codi?’ Mae'r nos yn llusgo'n araf, a dw i'n troi a throsi nes iddi wawrio.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Pan orweddaf, dywedaf, 'Pa bryd y caf godi?' Y mae'r nos yn hir, a byddaf yn blino yn troi a throsi hyd doriad gwawr.