Joel 1:12 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Gwywodd y winwydden, llesgaodd y ffigysbren, y pren pomgranad, y balmwydden hefyd, a'r afallen, a holl brennau y maes, a wywasant; am wywo llawenydd oddi wrth feibion dynion.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Mae'r gwinwydd wedi crino, ac mae'r coed olewydd wedi gwywo. Does dim pomgranadau, dim datys, a dim afalau. Mae'r coed ffrwythau i gyd wedi crino; Ac mae llawenydd y bobl wedi gwywo hefyd!
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Gwywodd y winwydden, a deifiwyd y ffigysbren. Y prennau pomgranad, y palmwydd a'r coed afalau y mae holl brennau'r maes wedi gwywo. A diflannodd llawenydd o blith y bobl.