Joel 1:13 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ymwregyswch a griddfenwch, chwi offeiriaid; udwch, weinidogion yr allor; deuwch, weinidogion fy NUW, gorweddwch ar hyd y nos mewn sachliain: canys atelir oddi wrth dŷ eich DUW yr offrwm bwyd, a'r offrwm diod.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Chi'r offeiriaid, gwisgwch sachliain a dechrau galaru. Crïwch yn uchel, chi sy'n gwasanaethu wrth yr allor. Weision Duw, treuliwch y nos yn galaru mewn sachliain, am fod neb yn dod ag offrwm i'r deml. Does neb bellach yn dod ag offrwm o rawn nac offrwm o ddiod i'w gyflwyno i'r ARGLWYDD.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Gwisgwch sachliain a galaru, offeiriaid, codwch gwynfan, weinidogion yr allor. Ewch i dreulio'r nos mewn sachliain, weinidogion fy Nuw, oherwydd i'r bwydoffrwm a'r diodoffrwm gael eu hatal o du375? eich Duw.