Joel 1:17 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Pydrodd yr hadau dan eu priddellau, yr ysguboriau a anrheithiwyd, yr ydlannau a fwriwyd i lawr; canys yr ŷd a wywodd.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Mae'r hadau wedi sychu yn y ddaear. Mae'r stordai'n wag a'r ysguboriau'n syrthio. Does dim cnydau i'w rhoi ynddyn nhw!
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Y mae'r had yn crebachu o dan y tywyrch, yr ysgubor wedi ei chwalu a'r granar yn adfeilion, am i'r grawn fethu.