Joel 1:4 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Gweddill y lindys a fwytaodd y ceiliog rhedyn, a gweddill y ceiliog rhedyn a ddifaodd pryf y rhwd, a gweddill pryf y rhwd a ysodd y locust.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Mae un haid o locustiaid ar ôl y llall wedi dinistrio'r cnydau i gyd! Beth bynnag oedd wedi ei adael ar ôl gan un haid roedd yr haid nesaf yn ei fwyta!
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yr hyn a adawodd y cyw locust, fe'i bwytaodd y locust sydd ar ei dyfiant; yr hyn a adawodd y locust ar ei dyfiant, fe'i bwytaodd y locust mawr; a'r hyn a adawodd y locust mawr, fe'i bwytaodd y locust difaol.