Joel 2:11 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A'r ARGLWYDD a rydd ei lef o flaen ei lu: canys mawr iawn yw ei wersyll ef: canys cryf yw yr hwn sydd yn gwneuthur ei air ef: oherwydd mawr yw dydd yr ARGLWYDD, ac ofnadwy iawn; a phwy a'i herys?
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Mae llais yr ARGLWYDD yn taranu wrth iddo arwain ei fyddin. Mae eu niferoedd yn enfawr! Maen nhw'n gwneud beth mae'n ei orchymyn. Ydy, mae dydd yr ARGLWYDD yn ddiwrnod mawr; mae'n ddychrynllyd! — Pa obaith sydd i unrhyw un?
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Cwyd yr ARGLWYDD ei lef ar flaen ei fyddin; y mae ei lu yn fawr iawn, a'r un sy'n cyflawni ei air yn gryf. Oherwydd mawr yw dydd yr ARGLWYDD, ac ofnadwy, a phwy a'i deil?