Joel 2:13 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A rhwygwch eich calon, ac nid eich dillad; ac ymchwelwch at yr ARGLWYDD eich DUW: oherwydd graslon a thrugarog yw efe, hwyrfrydig i ddigofaint, a mawr ei drugaredd, ac edifeiriol am ddrwg.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Rhwygwch eich calonnau, yn lle dim ond rhwygo eich dillad.” Trowch yn ôl at yr ARGLWYDD eich Duw! Mae e mor garedig a thrugarog; mor amyneddgar ac yn anhygoel o hael, a ddim yn hoffi cosbi.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Rhwygwch eich calon, nid eich dillad, a dychwelwch at yr ARGLWYDD eich Duw." Graslon a thrugarog yw ef, araf i ddigio, a mawr ei ffyddlondeb, ac yn edifar ganddo wneud niwed.