Joel 2:16 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Cesglwch y bobl; cysegrwch y gynulleidfa: cynullwch yr henuriaid; cesglwch y plant, a'r rhai yn sugno bronnau: deued y priodfab allan o'i ystafell, a'r briodferch allan o ystafell ei gwely.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Casglwch y bobl i gyd, a paratoi pawb i ddod at ei gilydd i addoli. Dewch a'r arweinwyr at ei gilydd. Dewch a'r plant yno, a'r babis bach. Dylai hyd yn oed y rhai sydd newydd briodi ddod — does neb i gadw draw!
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
cynullwch y bobl. Neilltuwch y gynulleidfa, cynullwch yr henuriaid, casglwch y plant, hyd yn oed y babanod. Doed y priodfab o'i ystafell a'r briodferch o'i siambr.