Joel 2:17 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Wyled yr offeiriaid, gweinidogion yr ARGLWYDD, rhwng y porth a'r allor, a dywedant, Arbed dy bobl, O ARGLWYDD, ac na ddyro dy etifeddiaeth i warth, i lywodraethu o'r cenhedloedd arnynt: paham y dywedent ymhlith y bobloedd, Pa le y mae eu DUW hwynt?
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dylai'r offeiriaid, y rhai sy'n gwasanaethu'r ARGLWYDD, wylo o'r cyntedd i'r allor, a gweddïo fel hyn: “ARGLWYDD, wnei di faddau i dy bobl? Paid gadael i'r wlad yma droi'n destun sbort. Paid gadael i baganiaid ein llywodraethu ni! Pam ddylai pobl y gwledydd gael dweud, ‘Felly, ble mae eu Duw nhw?’”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Rhwng y porth a'r allor wyled yr offeiriaid, gweinidogion yr ARGLWYDD, a dweud, "Arbed dy bobl, O ARGLWYDD. Paid gwneud dy etifeddiaeth yn warth ac yn gyff gwawd ymysg y cenhedloedd. Pam y dywedir ymysg y bobloedd, 'Ple mae eu Duw?'"