Joel 2:19 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A'r ARGLWYDD a etyb, ac a ddywed wrth ei bobl, Wele fi yn anfon i chwi ŷd, a gwin, ac olew; a diwellir chwi ohono: ac ni wnaf chwi mwyach yn waradwydd ymysg y cenhedloedd.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dyma fe'n dweud wrth ei bobl: “Edrychwch! Dw i'n mynd i'ch bendithio chi unwaith eto! Dw i'n mynd i roi cnydau da i chi, a digonedd o sudd grawnwin ac olew olewydd. Bydd gynnoch chi fwy na digon! Fyddwch chi ddim yn destun sbort i'r gwledydd o'ch cwmpas chi.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Atebodd yr ARGLWYDD a dweud wrth ei bobl, "Yr wyf yn anfon i chwi rawn a gwin ac olew nes eich digoni; ac ni wnaf chwi eto'n warth ymysg y cenhedloedd.