Joel 2:22 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Nac ofnwch, anifeiliaid y maes: canys tarddu y mae porfeydd yr anialwch; canys y pren a ddwg ei ffrwyth, y ffigysbren a'r winwydden a roddant eu cnwd.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Anifeiliaid gwylltion, peidiwch bod ag ofn! Mae glaswellt yn tyfu eto ar y tir pori, ac mae ffrwythau'n tyfu ar y coed. Mae'r coed ffigys a'r gwinwydd yn llawn ffrwyth.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Peidiwch ag ofni, anifeiliaid gwylltion, oherwydd bydd porfeydd yr anialwch yn wyrddlas; bydd y coed yn dwyn ffrwyth, a'r coed ffigys a'r gwinwydd yn rhoi eu cnwd yn helaeth.