Joel 2:23 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Chwithau, plant Seion, gorfoleddwch, ac ymlawenhewch yn yr ARGLWYDD eich DUW: canys efe a roddes i chwi y cynnar law yn gymedrol, ac a wna i'r cynnar law a'r diweddar law ddisgyn i chwi yn y mis cyntaf.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dathlwch chithau, bobl Seion! Mwynhewch beth mae Duw wedi ei wneud! Mae wedi rhoi'r glaw cynnar i chi ar yr adeg iawn — rhoi'r glaw cynnar yn yr hydref, a'r glaw diweddar yn y gwanwyn, fel o'r blaen.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Blant Seion, byddwch lawen, gorfoleddwch yn yr ARGLWYDD eich Duw; oherwydd rhydd ef ichwi law cynnar digonol; fe dywallt y glawogydd ichwi, y rhai cynnar a'r rhai diweddar fel o'r blaen.