Joel 2:7 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Rhedant fel glewion, dringant y mur fel rhyfelwyr, a cherddant bob un yn ei ffordd ei hun, ac ni wyrant oddi ar eu llwybrau.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Fel tyrfa o filwyr, maen nhw'n martsio ac yn dringo i fyny'r waliau. Maen nhw'n dod yn rhesi disgybledig does dim un yn gadael y rhengoedd.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Rhuthrant fel milwyr, dringant y mur fel rhyfelwyr; cerdda pob un yn ei flaen heb wyro o'i reng.