Joel 3:12 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Deffroed y cenhedloedd, a deuant i fyny i ddyffryn Jehosaffat: oherwydd yno yr eisteddaf i farnu yr holl genhedloedd o amgylch.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dewch yn eich blaen, chi'r cenhedloedd, i Ddyffryn Barn yr ARGLWYDD. Yno bydda i'n eistedd i lawr i farnu'r cenhedloedd i gyd.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
"Bydded i'r cenhedloedd ymysgwyd a dyfod i ddyffryn Jehosaffat; oherwydd yno'r eisteddaf mewn barn ar yr holl genhedloedd o amgylch.