John 1:15 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ioan a testolaethei am danaw, ac a lefei, gan ddywedyt, Hwn oedd yr vn y ddywedais am danaw, Hwn y ddaw ar v’ ol i, oedd vlaenor i mi: can ys y vot yn gyntaf ei ragorvraint na mi.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ioan a dystiolaethodd am Dano, ac a lefodd gan ddywedyd, Hwn yw Efe am yr Hwn y dywedais, Yr Hwn sy’n dyfod ar fy ol, o’m blaen yr oedd Efe, canys cyn na mi yr ydoedd.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Y mae Ioan yn tystio amdano, a gwaeddodd gan ddywedyd: “Dyma’r hwn y dywedais amdano. Yr hwn sy’n dyfod ar fy ôl i, yr oedd ef o’m blaen i, am ei fod yn gynt na mi;”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ioan a dystiolaethodd amdano ef, ac a lefodd, gan ddywedyd, Hwn oedd yr un y dywedais amdano, Yr hwn sydd yn dyfod ar fy ôl i, a aeth o'm blaen i: canys yr oedd efe o'm blaen i.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dyma'r un oedd Ioan yn sôn amdano. Cyhoeddodd yn uchel, “Dyma'r un ddwedais i amdano, ‘Mae'r un sy'n dod ar fy ôl i yn bwysicach na fi. Roedd e'n bodoli o'm blaen i.’”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Y mae Ioan yn tystio amdano ac yn cyhoeddi: "Hwn oedd yr un y dywedais amdano, 'Y mae'r hwn sy'n dod ar f'l i wedi fy mlaenori i, oherwydd yr oedd yn bod o'm blaen i.'"
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Y mae Ioan yn tystiolaethu am dano ef, ac yn para i lefain, gan ddywedyd Hwn oedd yr un y dywedais am dano, Yr hwn sydd yn dyfod ar fy ol i sydd wedi myned o'm blaen i: canys yr oedd efe o'm blaen i.