John 1:19 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
¶ A’ hyn yw testiolaeth Ioan, pan dd anvonent yr Iuðaeon Offeiriait a’ Levitae o Gaerusalem, y ofyn ’yddaw, Pwy ’n wyti?
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A hon yw tystiolaeth Ioan, pan atto y danfonodd yr Iwddewon o Ierwshalem offeiriaid a Lefiaid, fel y gofynent iddo, Tydi, pwy ydwyt?
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A hon yw tystiolaeth Ioan, pan ddanfonodd yr Iddewon ato o Gaersalem offeiriaid a Lefiaid i’w holi, “Pwy wyt ti?”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A hon yw tystiolaeth Ioan, pan anfonodd yr Iddewon o Jerwsalem offeiriaid a Lefiaid i ofyn iddo, Pwy wyt ti?
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dyma'r arweinwyr Iddewig yn Jerwsalem yn anfon offeiriaid a Lefiaid at Ioan Fedyddiwr i ofyn iddo pwy oedd.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Dyma dystiolaeth Ioan, pan anfonodd yr Iddewon o Jerwsalem offeiriaid a Lefiaid ato i ofyn iddo, "Pwy wyt ti?"
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A hon yw tystiolaeth Ioan, pan yr anfonodd yr Iuddewon ato ef, allan o Jerusalem, offeiriaid a Lefiaid, i ofyn iddo, Pwy wyt ti?